9 Tachwedd 2020
Annwyl Dafydd,
Yn ei gyfarfod diweddaraf ar 5 Tachwedd, cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y byddem yn ysgrifennu atoch i gael mwy o wybodaeth am nifer o bwyntiau a nodir isod.
Cefnogaeth i'r sector cerddoriaeth fyw gan Gymru Greadigol
Rydym wedi croesawu’r cyllid sylweddol gan Gymru Greadigol i leoliadau llawr gwlad o ganlyniad i bandemig COVID-19. Yn gyffredinol, mae hyn wedi bod yn hanfodol i oroesiad y sector yn ystod y cyfnod heriol hwn. Fodd bynnag, clywsom y gallai oedi o ran dosbarthu'r dyraniadau cyllid – yn enwedig pan fydd gan leoliadau cerddoriaeth a lletygarwch gostau i'w talu nawr – arwain at fusnesau'n mynd i'r wal yn y cyfamser.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn eich ymateb ynglŷn â’r amserlenni presennol ar gyfer rhoi cyllid i leoliadau, a nodi a oes modd cyflymu’r broses hon. Gyda hyn mewn golwg, gofynnwn hefyd a oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i rannu adnoddau staff tîm yr Economi (sydd â'r sgiliau a'r profiad o ran dosbarthu cyllid grant) â Chymru Greadigol am gyfnod penodol er mwyn ymateb i’r pwysau presennol ar gyllid Cymru Greadigol?
Cyllideb Atodol 2020-21
Wrth ystyried Cyllideb Atodol 2020-21 byddem yn croesawu ymateb i'r canlynol:
- Mae Chwaraeon Cymru wedi cael £12.5 miliwn ychwanegol, ond roedd y Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden (roeddem ar ddeall mai arian newydd oedd hwn) yn werth £14 miliwn. A fyddai modd rhoi eglurhad o’r anghysondeb hwn?
- Nodwn fod cyllideb gyfalaf Cadw wedi'i gostwng £3.7 miliwn – a allwch egluro'r rhesymau dros y gostyngiad hwn?
- Mae'r dyraniadau newydd ar gyfer diwylliant a nodir yn y Gyllideb Atodol yn cyfateb i fwy na'r Gronfa Adferiad Diwylliannol sy’n werth £53 miliwn – a fyddai'n bosibl egluro'r rheswm am hyn?
Er mwyn llywio gwaith y Pwyllgor byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb i'r cwestiynau hyn erbyn 27 Tachwedd.
Yn gywir,
Helen Mary Jones
Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu